CIT I’R WASG


LAWRLWYTHIADAU

  • Albwm (ffeiliau sain + llyfryn PDF)

  • Celf Clawr (JPEG cydraniad uchel)

  • Llun Artist 1 (JPEG)

  • Llun Artist 2 (JPEG)

  • Datganiad i’r Wasg (PDF)


Pawlie i ryddhau ‘Ffoadur’ — ei albwm Cymraeg cyntaf.

Mae Flying Meatloaf Records yn falch o gyhoeddi ‘Ffoadur’ — yr albwm Cymraeg cyntaf gan Pawlie, canwr-gyfansoddwr (a siaradwr Cymraeg) yn Santa Barbara, Califfornia.

Bydd ‘Ffoadur’ yn rhyddhau ar XX Xxx 202X — ar CD, finyl, lawrlwytho, a ffrydio. Bydd dwy sengl: TBD (yn rhyddhau ar TBD) a TBD (ar TBD). Pumed albwm Pawlie fydd ‘Ffoadur,’ yn dilyn rhyddhad ei sengl Gymraeg gyntaf yn 2024.

“‘Ffoadur’ ydy’r cam nesa ar fy nhaith Gymraeg a’m twf personol,” meddai Pawlie.

Y cysyniad

Mae gan ‘Ffoadur’ wyth cân wedi’u hadeiladu o amgylch y thema o deimlo fel dieithryn yn eich gwlad eich hun. Meddai Pawlie am thema’r prosiect: “Dw i’n byw yn America, felly does dim syndod o ble ddaeth fy ysbrydoliaeth — nac angerdd a gwatwareg rhai o’r caneuon!”

Ond mae hefyd elfennau hunangofiannol wedi’u plethu i’r caneuon. Eglurodd Pawlie, “Daeth y cysyniad ‘Ffoadur’ yn ystod cyfnod o hunanfyfyrio. Ro’n i’n edrych ar fy mywyd, y sefyllfa erchyll yn America, teulu a ffrindiau, a’r dyfodol. Dechreuais i sylwi’r un patrymau ym mhob un...”

Y caneuon

Mae ‘Ffoadur’ yn archwilio dieithriad — mewnol ac allanol. Tra bod ‘Y Celwydd Mawr,’ ‘Mistar Neb,’ ac ‘Americanwr Balch (Acwstig)’ yn llawn sylwebaeth gymdeithasol sarcastig, dim ond hanner y stori ydy hyn. Mae caneuon fel ‘Yn fy Mreuddwyd,’ ‘Cerdded i Ffwrdd,’ ac ‘Yr Un Hen Fi’ yn delio ag unigrwydd, ansicrwydd, mewnsylliad, ac (yn y pen draw) derbyniad. “Gobeithio bydd gwrandawyr yn uniaethu â’r cyferbyniad rhwng y tywyllwch a’r golau,” meddai Pawlie.

Y cynhyrchiad

Recordiwyd prif draciau yn Stiwdio Sain, gyda dream team o’r sîn gerddoriaeth Gymraeg: Osian Huw Williams (Candelas) ar y drymiau a lleisiau cefndir, ac Aled Wyn Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog) ar y gitâr fas — a gynhyrchodd a pheiriannodd y sesiynau. Roedd sesiynau Sain hefyd yn cynnwys Euron Jones (gitâr ddur bedal), Will Pound (organ geg, melodeon), a Mei Emrys (llais, gitâr drydan) sy’n canu deuawd efo Pawlie ar ‘Pilipalod.’

Yn ôl yn Santa Barbara, cwblhaodd Pawlie y gitarau a’r lleisiau, wrth ychwanegodd Angus Cooke (Woodburning Project) soddgrwth ar ddwy gân. Gan sôn am linynnau, mae ‘Americanwr Balch (Acwstig)’ yn fersiwn arbennig y sengl 2024 gydag un gitâr, un llais, a phedwarawd llinynnol. Crëwyd y trefniant llinynnol eithriadol gan Roger Joseph Manning, Jr. (Jellyfish, Beck).

Cafodd ‘Ffoadur’ ei gymysgu gan Thom Flowers (Steve Perry, The Ataris) yn Hi-Volt Sound yn Santa Barbara, a’i fastro yng Nghymru gan Gethin John yn Hafod Mastering yn Y Bont-faen. Torrwyd y meistr finyl gan Jason Mitchell yn LOUD Mastering yn Taunton (TBC).

Peintiwyd gwaith celf trawiadol yr albwm gan Sabro Foster yn Ne Califfornia.

Hanes yr artist

Ar ôl tyfu i fyny yn Lloegr, symudodd Pawlie i America gyda’i deulu’n ddeg oed. Strymiodd ei gitâr gyntaf yn 13 oed, a hanes ydy’r gweddill. Mae ei gerddoriaeth yn tynnu ar ddylanwadau roc, pop, jazz, gwerin, a mwy. Dechreuodd Pawlie dysgu Cymraeg yn 2022.

I ddathlu rhyddhad ‘Ffoadur’ bydd Pawlie yn perfformio cyfres o gigs acwstig ledled Cymru yng ngwanwyn 2027.


NODIADAU RHYDDHAU

  • Enw’r albwm: Ffoadur

  • Enw’r artist: Pawlie

  • Dyddiad rhyddhau: TBD

  • Fformatau rhyddhau: CD, finyl, lawrlwytho, ffrydio

  • Label: Flying Meatloaf Records (FMR-005)

CYSWLLT ARTIST

CREDYDAU CYNHYRCHU

  • Cynhyrchwyd gan Pawlie, Aled Wyn Hughes, a Thom Flowers

  • Recordiwyd gan Aled Wyn Hughes yn Stiwdio Sain, Llandwrog

  • Cymysgwyd gan Thom Flowers yn Hi-Volt Sound, Santa Barbara

  • Mastrwyd gan Gethin John yn Hafod Mastering, Y bont-faen

  • Trefniant Llinynnol (6) gan Roger Joseph Manning, Jr.

  • Pedwarawd llinynnol (6) recordiwyd gan Ken Sluiter yn 64 Sound, Los Angeles

  • Recordio ychwanegol yn Santa Barbara a Los Angeles

  • Cyfansoddwyd yr holl ganeuon gan Pawlie

  • © 2025 Mr. Potato Head Music (ASCAP)

  • ℗ 2026 Flying Meatloaf Records

  • Peintiadau gan Sabro Foster

  • Er cof am Julie Bryant

CREDYDAU PERFFORMWYR

  • Pawlie Bryant — Llais, gitârau acwstig a thrydan, piano, Rhodes, organ, synth, banjo

  • Osian Huw Williams — Drymiau, lleisiau cefndir (1,2,5,7)

  • Aled Wyn Hughes — Gitâr fas, gitâr drydan (4,5)

  • Mei Emrys — Llais (3), gitâr drydan (3)

  • Euron “Jos” Jones — Gitâr ddur bedal

  • Will Pound — Organ geg, melodeon

  • Roger Joseph Manning, Jr. — Piano (8)

  • Thom Flowers — Gitâr drydan (3)

  • Libby Patten — Lleisiau cefndir (4)

  • Angus Cooke — Soddgrwth (2,8)

  • Songa Lee — Feiolin gyntaf (6)

  • Kathleen Sloan — Ail feiolin (6)

  • Alma Fernandez — Fiola (6)

  • Vanessa Freebairn-Smith — Soddgrwth (6)


© 2025 Mr. Potato Head Music (ASCAP)
℗ 2026 Flying Meatloaf Records