DATGANIAD I’R WASG
Mae Flying Meatloaf Records yn hapus i gyhoeddi ei sengl Cymraeg cyntaf: Americanwr Balch gan yr artist Pawlie o Santa Barbara, Califfornia. Bydd y sengl yn cael ei rhyddhau ar 29 Mawrth 2024, a bydd ar gael i'w lawrlwytho a'i ffrydio trwy'r holl brif allfeydd.
“Mae Americanwr Balch yn broc tafod-yn-y-boch ar agweddau Americanaidd y dyddiau hyn,” meddai Pawlie — sy’n ddinesydd deuol y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau.
“Ar ôl treulio mis yn teithio o amgylch Cymru’r gwanwyn diwethaf, gwnes i lawer o ffrindiau newydd a chwrdd â phobl o’r un meddylfryd a rannodd fy marn ar drywydd presennol America. Teimlais gysylltiad â Chymru bron ar unwaith, a dechreuais feddwl tybed a fyddai gwrandawyr Cymraeg yn mwynhau clywed Brit o Galiffornia . . . yn cymryd y piss allan o America . . . yn Gymraeg!” meddai Pawlie. “Dechreuais weithio ar delynegion Cymraeg i Proud American o fy albwm 2021 a disgynnodd pethau i'w lle’n gyflym. Gobeithio bydd pobl yn chwerthin ac yn gwerthfawrogi'r neges tafod-yn-y-boch, sarcastig. Dyw hon ddim yn gân wladgarol!”
Americanwr Balch yw’r tro cyntaf Pawlie i gyfansoddi caneuon Cymraeg. Meddai Pawlie, “Ces i fy mhasbort DU, ac o dan British Passport roedd yn dweud Pasbort Prydeinig. Sylweddolais taw Cymraeg yw’r unig iaith swyddogol yn y DU heblaw Saesneg, felly penderfynais ddechrau dysgu. Mae’n iaith anhygoel ar gyfer canu, ac mae diwylliant Cymreig yn rhoi gwerth uchel iawn ar gerddoriaeth, barddoniaeth, llenyddiaeth, a’r celfyddydau — felly sylweddolais yn gynnar fod yn rhaid i mi roi cynnig ar sgwennu yn Gymraeg!
Ers 1990, mae Pawlie yn creu cerddoriaeth gan dynnu ar ddylanwadau yn y genres roc, pop, jazz, gwerin, a blaengar. Mae e wedi rhyddhau pedwar albwm hyd yn hyn: Pawlie (1994), The Small Time (1998), Little Green Man (2011), ac An Ape's Progress (2021). Mae ei ddylanwadau yn cynnwys Todd Rundgren, Neil Finn, Joni Mitchell, The Fixx, Yes, Genesis, Camel, a mwy.
Ar ôl tyfu i fyny yn Lloegr, symudodd Pawlie i America gyda’i deulu. Strymiodd ei gitâr gyntaf yn 13 oed, a thyfodd ei ddiddordeb yn gyflym gyda phob agwedd ar gyfansoddi cerddoriaeth, perfformio, a recordio. Arweiniodd hyn yn y pen draw at Brifysgol Califfornia yn Santa Barbara, lle astudiodd beirianneg drydanol fel llwybr i gynhyrchu sain. Mae Pawlie yn gweithio fel athro peirianneg, ond mae gyda fe obsesiwn â cherddoriaeth o hyd!
Cafodd Americanwr Balch ei chyd-gynhyrchu â Thom Flowers (Steve Perry, The Ataris), gyda Jake Hayden (Nick Carter, Dorothy, Beth Ditto) ar y drymiau, Dean Dinning (Toad the Wet Sprocket) ar y bas a'r organ, Mike Keneally (Zappa, Vai, Satriani) ar y gitâr arweiniol, a Roger Joseph Manning Jr. (Jellyfish, Beck) ar y piano a'r syntheseisydd. Mae Pawlie yn chwarae gitarau rhythm acwstig a thrydan ac yn brif leisydd ar y trac. Cafodd Americanwr Balch ei chymysgu gan Thom Flowers yn Hi-Volt Sound yn Santa Barbara a'i meistroli yng Nghymru gan Gethin John yn Hafod Mastering. Cafodd gwaith celf y sengl ei greu gan yr arlunydd a'r artist gweledol o San Diego Igor Koutsenko.
Mae Pawlie yn gobeithio dechrau gweithio ar fideo ar gyfer Americanwr Balch yn yr haf.
NODIADAU RHYDDHAU
Dyddiad rhyddhau: 29 Mawrth 2024
Enw trac: Americanwr Balch
Artist: Pawlie
Hyd trac: 3:44
Label: Flying Meatloaf Records
CYSWLLT ARTIST
© 2018 & 2023 Mr. Potato Head Music (ASCAP)
℗ 2024 Flying Meatloaf Records